The Hall was awarded a large grant of £66,330 from the National Lottery People and Places Fund to help in refurbishment and to provide additional facilities. Work began in the Spring of 2021 with completion by the Autumn of 2021.
Following the Hall’s successful centenary celebrations back in 2018, the committee set itself the target of making significant improvements both to the interior and exterior. To gauge the reaction of users and local residents to a range of options, a questionnaire was circulated in November 2019. There were more than 420 responses received from around 1,300 questionnaires sent out and the report on this survey formed the basis of the successful application for National Lottery funding.
External work included the replacement of guttering and bargeboards, renewal of the front porch roof, the erection of a larger canopy over the side entrance, new front and side doors and improved drainage and surface to the path on the north side of the Hall.
Internal work provided new radiators and pipe-work throughout, replacement LED main lighting, provision of wall lighting and cooling fans, removal of the stage and replacement with a portable option, renewal of the floor in the main hall and cloakrooms, new sound system, wi-fi and complete re-decoration. New chairs and additional smaller tables have been purchased.
The committee is extremely grateful to the National Lottery and all players of Lotto for making this much needed refurbishment possible.
In 2023 the Hall has received a further Grant from the National Lottery to help update and improve the kitchen area. This will be achieved during the year.
Cyllid y Loteri ar Waith
Mae grant mawr o £66,330 wedi’i ddyfarnu i Neuadd Vivian gan Gronfa Pawb a’i Le y Loteri Genedlaethol i helpu gyda gwaith ailwampio a darparu cyfleusterau ychwanegol. Dechreuwyd y gwaith yn y Gwanwyn 2021, a bwriedir ei gwblhau erbyn yr Hydref.
Yn dilyn dathliadau canmlwyddiant llwyddiannus y Neuadd ’nôl yn 2018, gosododd y pwyllgor y targed iddo’i hun o wneud gwelliannau sylweddol i du fewn y neuadd a’r tu allan. Er mwyn mesur adwaith defnyddwyr a thrigolion lleol i ystod o opsiynau, cafodd holiadur ei gylchredeg yn Nhachwedd 2019. Derbyniwyd dros 420 o ymatebion o ryw 1,300 o holiaduron a anfonwyd allan, a’r adroddiad ar yr arolwg hwn oedd sail y cais llwyddiannus am gyllid y Loteri Genedlaethol.
Bydd gwaith ar y tu allan yn cynnwys adnewyddu cafnau ac estyll tywydd, adnewyddu to’r portsh blaen, codi canopi mawr dros y fynedfa ochr, drysau ffrynt a drysau ochr newydd, a gwell draeniad ac wyneb i’r llwybr ar ochr ogleddol y Neuadd.
Bydd gwaith mewnol yn darparu rheiddiaduron a phibwaith newydd drwy’r neuadd gyfan, adnewyddu’r prif oleuadau LED, darparu goleuadau wal a gwyntyllau oeri, tynnu’r llwyfan a’i ddisodli ag opsiwn cludadwy, adnewyddu’r llawr yn y brif neuadd a’r ystafell gotiau, system sain newydd, wi-fi a gwaith ailaddurno drwyddi draw. Bydd cadeiriau newydd a byrddau llai ychwanegol yn cael eu prynu.
Er mwyn lleihau tarfu ar ddefnyddwyr – dim ond y Cylch Chwarae a’r Clinig Traed am y tro – bydd un neuadd ar gael bob amser. Bwriedir cwblhau’r gwaith ar y neuadd fach erbyn diwedd Ebrill, a bydd gwaith ar y brif neuadd yn dechrau ganol Mai ar ôl defnyddio’r Neuadd fel Gorsaf Bleidleisio.
Mae’r pwyllgor yn hynod ddiolchgar i’r Loteri Genedlaethol a holl chwaraewyr Lotto am wneud y gwaith ailwampio hwn yr oedd mawr ei angen yn bosibl.